Therapi Rhyw
Therapi Seicorywiol
Mae nifer o bobl yn cael anawsterau rhywiol ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae problemau o’r fath yn gyffredin iawn ac nid oes angen teimlo cywilydd am y peth. Mae nifer o resymau corfforol ac emosiynol dros yr anawsterau, er enghraifft straen, gorflino, salwch, neu fabi newydd.
Mae ein therapyddion yn deall sut y gall anawsterau megis analluedd, diffyg awydd rhyw, rhyw poenus neu alldaflaid cynamserol gael effaith ddifrifol ar berthynas cwpl. Mae Relate yn gweithio gyda chyplau o’r un rhyw, pobl ag anableddau, pobl drawsrywiol, cyplau heterorywiol a phobl sengl.
Mae Relate yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol a synhwyrol i helpu pobl â phroblemau rhywiol. Beth am drefnu apwyntiad cychwynnol cyfrinachol i weld beth allwn ni ei gynnig i chi?
Yn ystod y sesiwn hon, cewch gyfle i drafod a darganfod beth rydych chi am ei gyflawni neu ei newid yn eich perthynas rywiol.
Os byddwch chi’n penderfynu trefnu sesiynau pellach, cewch raglen o ymarferion i’w gwneud gartref. Ni ofynnir i chi gyflawni tasgau rhywiol yn ystod sesiwn.
Mae dros 93% o’r bobl rydyn ni wedi’u gweld yn dweud wrthym ein bod wedi helpu i wella eu bywydau rhywiol.
Ffoniwch ni nawr, yn gwbl gyfrinachol, ar 01492 533919/533920 neu 01978 265028