Sylwadau gan Gleientiaid
Dyma sylwadau gan rai o’n cleientiaid, gyda 94% ohonynt yn dweud y byddent yn argymell gwasanaethau Relate i eraill: -
“Prif fantais y sesiynau oedd ein bod yn gallu trafod problemau gyda pherson annibynnol a oedd yn ddiduedd, yn ystyriol ac yn amlwg yn brofiadol yn ymdrin ag unrhyw anhawsterau tebygol.”
“Ni fyddwn yn oedi i gysylltu â chi eto neu i’ch argymell i eraill. Diolch yn fawr am fod yno ac am fod eisiau cynorthwyo”.
“Roedd yr holl wasanaeth a gawsom yn ardderchog; byddwn yn argymell Relate i unrhyw un ag anhawsterau perthynas. Mae Relate yn eich helpu i ddeall pam eich bod yn gwneud pethau ac i addasu eich ymddygiad mewn modd cadarnhaol.”
“Roedd yn dda i siarad am bethau sy’n anodd iawn i siarad amdanynt”.
“Teimlais wedi fy ngrymuso gan y sesiynau”.
“Cynorthwyodd y sesiynau cynghori mi i gael rywfaint o bersbectif ac eglurder”.
“Nid oedd y cynghorydd yn cymryd ochr ond heriodd y ddau ohonom”.