Sylwadau gan Gleientiaid
Dyma rai sylwadau gan ein cleientiaid, gyda 94% ohonynt a fyddai’n argymell Relate i eraill:-
“Prif fantais y sesiynau oedd ein bod wedi gallu trafod problemau a trydydd berson a oedd yn ddiduedd, yn deimladwy ac yn amlwg â phrofiad mewn delio ac unrhyw anhawsterau a all godi.”
“Ni fyddwn yn oedi i gysylltu â chi eto neu i’ch argymell i eraill. Diolch yn fawr am fod yno ac am fod eisiau cynorthwyo”.
“Roedd yr holl wasanaeth a derbyniom yn ardderchog; byddwn yn argymell Relate i unrhyw rai sy’n profi anhawsterau perthynas. Mae’n eich cynorthwyo i ddeall pam eich bod yn gwneud pethau ac i addasu eich ymddygiad mewn modd positif”.
“Roedd yn dda i siarad am bethau sy’n anodd iawn i siarad amdanynt”.
“Teimlais wedi fy ngrymuso gan y sesiynau”.
“Cynorthwyodd y sesiynau cynghori mi i gael rywfaint o bersbectif ac eglurder”.
“Nid oedd y cynghorydd yn cymryd ochr ond heriodd y ddau ohonom”.