postheadericon Relate yn 70

Relate yn 70: Prif elusen perthynas y wlad yn cyflwyno’r deg mater sy’n gwthio cyplau ar wahân 

  • Godineb – y prif reswm pam ddaeth cyplau i ofyn am gymorth yn 2008
  • Anfodlonrwydd yn yr ystafell wely – mae’r ffaith bod materion rhywiol yn yr ail safle yn pwysleisio’r anfodlonrwydd difrifol sy’n bodoli yn ein hystafelloedd gwely ac yn profi’r angen am ein gwasanaethau therapi rhyw.
  • Straen yn y gweithle a diffyg cydbwysedd rhwng bywyd gwaith a bywyd cartref – y mater sy’n drydydd o ran pwysigrwydd, sy’n dangos yr anhawster mae teuluoedd yn ei gael i drefnu eu blaenoriaethau.

Mae Relate, yr elusen cynghori perthynas a sefydlwyd 70 mlynedd yn ôl gan y Parchedig Ddr Herbert Grey oherwydd pryder am fywyd teuluol, wedi comisiynu arolwg i dynnu sylw at y materion sy’n dod â chyplau at Relate yn eu miloedd – ar gyfartaledd 150,000 y flwyddyn.

Nid yw holl gleientiaid Relate yn briod – mae llawer yn byw gyda’i gilydd, tra bod eraill yn canlyn neu’n syml yn mynd allan gyda’i gilydd. Mae rhai mewn perthynas gyda pherson arall o’r un rhyw, tra bod eraill yn dod i’n gweld i ddod i delerau â pherthynas wedi dod i ben. Mae mwy a mwy o gleientiaid Relate yn dod i’n gweld oherwydd gwahanu anochel a’u penderfyniad i wneud eu gorau dros eu plant yn sgîl hynny. Rydym hefyd yn gweld nifer gynyddol o deuluoedd gyda’i gilydd, plant a phobl ifanc sy’n cael trafferth gyda’u bywydau gartref a chyplau yn derbyn therapi rhyw.

Mae â wnelo’r arolwg â chyplau sy’n dod atom am gyngor perthynas yn unig – mae llawer yn gobeithio achub eu perthynas a’i wella er mwyn gallu teimlo’n fwy iach, cyflawni mwy yn eu gwaith a gwella ansawdd eu bywyd a bywydau eu teulu estynedig. Mae 79% o’r cleientiaid sy’n dod at Relate yn dweud y bu i’r cymorth a gawsant gryfhau eu perthynas gyda’u partner, yma rydym yn dangos beth sy’n eu hysgogi i godi’r ffôn neu fynd ar lein i wneud eu hapwyntiad cyntaf.

Y tu ôl i’r rhan fwyaf o’r hyn sy’n chwalu perthynas mae’r mater o broblemau cyfathrebu a brofir gan bob cwpl. Crynhodd un cynghorwr hyn drwy ddweud “Mae cyfathrebu’n disgyn iddau garfan: nid ydym yn cyfathrebu am unrhyw beth bellach, ac rydym yn ffraeo am ddim byd /am bopeth.” Caiff materion a phroblemau mawrion eu troi’n broblemau mwy gan gyplau sydd yn methu siarad â’i gilydd am eu bywydau gan arwain at ffraeo parhaus neu’r driniaeth dawel gan effeithio ar unrhyw blant sydd ganddynt.

Y deg mater mwyaf cyffredin mae cleientiaid Relate yn eu hwynebu yw:

1. Perthynas tra mewn perthynas arall
2. Anhawsterau mewn bywyd rhyw
3. Straen gwaith a diffyg cydbwysedd rhwng bywyd gwaith a bywyd cartref
4. Llys deuluoedd a newid teuluol
5. Trais a cham-drin yn y cartref
6. Diffyg hunanhyder
7. Anhawsterau ariannol
8. Effaith babi newydd
9. Gorddefnydd o’r we
10. Iselder ac iechyd meddwl

Dywed Claire Tyler, Prif Weithredwr Relate, “Yn y byd sydd ohoni mae straen fawr ar berthynas – rydym yn clywed gan unigolion sydd yn darganfod am berthynas eu partner â rhywun arall drwy neges destun neu e-bost a chan gyplau sy’n gweithio oriau mor hir fel nad ydynt prin yn gweld eu teuluoedd. Ond, rydym yn gwneud popeth y gallwn i gynorthwyo’r bobl yn y sefyllfaoedd hyn.

Bydd gan bawb anhawsterau perthynas ar ryw adeg yn eu bywydau. Rydym yn sicrhau bod cyngor a chefnogaeth ar gael i bobl o bob oed fel y gallant newid eu bywyd.”