Hanes Relate
Wrth i Relate ddathlu ei ben-blwydd yn 70, rydym yn edrych yn ôl drwy’n harchifau gan gyflwyno rhai ffeithiau na fyddwch efallai yn eu gwybod am un o elusennau mwyaf adnabyddus y wlad…
- Sefydlwyd Relate yn 1938 gan y Parchedig Ddr Herbert Gray. Yr enw bryd hynny oedd y Marriage Guidance Council.
- Roedd ysgariad, cwymp yn y raddfa enedigaeth a moesoldeb rhywiol yn destun pryder i’r mudiad wrth i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben.
- Yn 1945 amcangyfrifodd Dr Mace, un o sylfaenwyr y MGC , bod un fam ym mhob chwech wedi cefnu ar y syniad o burdeb cyn priodi.
- Un arall o aelodau gwreiddiol y mudiad oedd Mary Attenborough, mam yr Arglwydd Attenborough a Syr David Attenborough
- Yn 1948, darganfu arolwg o 1000 cleient bod 1 mewn 4 yn anwybodus hollol ynglŷn â ryw a bod 1 gwraig mewn 3 yn anfodlon yn rhywiol.
- Yn 1952 daeth tua 3,000 o gyplau atom am gyngor paratoad priodasol.
- Erbyn 1953 roeddem yn cynorthwyo 7943 o gyplau mewn rhwydwaith cynyddol o ganolfannau o amgylch y wlad.
- Erbyn 1967 roedd 94 y cant o’r cyhoedd yn ymwybodol o NMGC
- Cafodd Therapi Camweithredu Rhyw Priodasol ei ddechrau gan Relate yn 1976, gyda dau therapydd yn gweithio i’r mudiad. Yn 1990 cafodd ei ailenwi’n Therapi Rhyw.
- Trefnodd y Monty-python John Cleese arwyddo copïau o’i lyfr “Families and how to survive them” yn siop lyfrau Relate, yng Ngholeg Herbert Gray yn 1985
- Cynigiodd Relate gyngor dros y ffôn yn 1991.
- Heddiw yn 2008, mae Relate yn cynorthwyo 150,000 o bobl mewn 600 o leoliadau yn genedlaethol – cwnsela teuluol, cwnsela pobl ifanc, cefnogaeth i rieni, cyfryngdod therapiwtig a gweithdai grŵp ar gyfer camau pwysig mewn bywyd.