Gweithio i Ni
Yn gweithio i hyrwyddo iechyd, parch a chyfiawnder mewn perthynas teulu a chwplau
Bydd gennych:
Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu ardderchog
Brofiad o gydweithio, o adeiladu a chynnal perthnasau effeithiol
Profiad mewn dylanwadu, arwain a rheoli newid
Dyddiad cau: 27 Ionawr 2010 (Hanner dydd)
Dyddiad cyfweliad: 9 Chwefror 2010
Mae angen Datgeliad Uwch gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
Am becyn cais anfonwch amlen A4 gyda stamp a chyfeiriad (61p) i : Y Gweinyddwr, Relate Cymru, 47 Ffordd Walter, Abertawe, SA 1 5PW, neu ffoniwch: 01792 480088.
Mae Relate Cymru yn cynnig cyfle cyfartal ac amrywiaeth
Elusen Cofrestredig rhif: 1105561
Fel Cynghorwr
Rydym wastad yn edrych am fwy o gynghorwyr wedi eu hyfforddi. Os ydych yn gweithio gyda ni fel cynghorydd perthynas wedi ei hyfforddi, unai mewn therapi cwpl, rhyw neu deuluol efallai byddwch yn gallu ymuno â’n cynllun cyflogedig.
Byddwn yn dod o hyd i gleientiaid i chi, yn sicrhau indemniad proffesiynol, yn eich goruchwylio, yn rhoi cefnogaeth glinigol i chi ac yn cynnig cynllun datblygiad proffesiynol parhaol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynghorwr Relate, dewch o hyd i fwy o wybodaeth gan Swyddfa Ganolog Relate yn www.relate.org.uk/workforrelate
Fel Gwirfoddolwr
Fel elusen, rydym yn croesawu gwirfoddolwyr i’n cynorthwyo i ddarparu ein gwasanaethau allweddol i’r rhai hynny sydd eu hangen. Os oes gennych sgiliau busnes, TG neu weinyddol ac rydych yn barod i roi rhywfaint o’ch amser rhydd am ddim, cysylltwch â Rheolwr y Ganolfan ar 01492 533240.