Gwasanaethau Cyswllt Plant
Gwasanaeth Cyswllt Plant Dan Oruchwyliaeth, Gogledd Cymru
Beth yw Gwasanaeth Cyswllt Plant Dan Oruchwyliaeth?
Mae’r Gwasaneth Cyswllt Plant yno i gynorthwyo plant i gynnal perthynas briodol a diogel gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’u teulu ble mae amgylchiadau yn gwneud cwrdd mewn modd arall yn anodd. Rydym yn cynnig nifer penodol o sesiynau teulu mewn cymunedau ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn paratoi adroddiadau a fydd yn cyfrannu tuag at argymhellion ar unrhyw gyswllt yn y dyfodol sy’n gosod anghenion y plentyn yn gyntaf. Ar hyn o bryd bydd yr holl gyfeiriadau yn deillio o’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass Cymru).
Sut ydym yn gweithio?
Unwaith bydd ein gwasanaeth yn derbyn cyfeiriad, bydd aelod staff yn cwrdd â’r rhieni ar wahân, i drafod cytundebau cyswllt. Bydd yr holl sesiynau cyswllt yn cael eu harsylwi’n agos gan ddau aelod staff a byddant yn cael eu cofnodi ar ffurf ysgrifenedig; bydd y rhain yn ffurfio sail yr adroddiad a gynhyrchir ar ddiwedd y broses. Gellir trefnu nad yw’r rhieni’n cwrdd â’i gilydd yn ystod y sesiynau cyswllt. Bydd staff yn cefnogi’r ddau riant drwy gydol yr amser y byddant yn defnyddio’r gwasanaeth.
Mae’r holl staff wedi eu hyfforddi ac yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r gwasanaeth. Rydym yn wasanaeth annibynnol ac nid ydym yn ochri ag unrhyw un mewn unrhyw anghydfod rhwng rhieni ynglŷn â gweld y plant.
Am ragor o wybodaeth:
Cysylltwch â Vicky Gregory, Cydlynydd Gwasanaeth, Canolfan Ffordd yr Abaty, 5/9 Ffordd yr Abaty, Bangor, Gwynedd, LL57 2EA
Ffôn: 01248 363444 e-bost: supervisedcontact@relatecymru.org.uk
Darllenwch hwn yn Saesneg