Dewis Newid
Newid ymddygiad: Newid Bywydau
Beth yw Dewis Newid?
Mae Dewis Newid yn wasanaeth sy’n cynorthwyo dynion ag arnynt eisiau newid y ffordd maent yn ymddwyn tuag at eu partneriaid . Maent yn cynnig cefnogaeth i’r partneriaid hefyd.
Beth ydym yn ei gynnig?
Byddwn yn cyfarfod i siarad â chi am eich ymddygiad a sut gallwn helpu.
Mae gennym raglen grŵp ble gallwch weithio gydag eraill tuag i newid eich ymddygiad er mwyn gwella’ch perthynas.
Gyda phwy allwn weithio?
Unrhyw ddyn sydd am newid ei ymddygiad yn ei berthynas. Gallwn hefyd gynorthwyo’ch partner a’i helpu i ddeall y gwaith rydych yn ei wneud.
Beth ddylid ei wneud?
Ffonia 01745 345929 neu anfona e-bost at choose2change@relatecymru.org.uk i ddarganfod mwy neu i drefnu cyfarfod ag aelod o staff i gychwyn arni.
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
C. Beth os nad ydw i erioed wedi taro fy mhartner?
A. Nid yw llawer o’r dynion rydym yn gweithio â nhw wedi bod yn dreisgar yn gorfforol tuag at eu partner. Nid trais corfforol yn unig yw trais yn y cartref.
C. Beth os nad ydw i mewn perthynas bellach?
A. Does dim rhaid i chi fod mewn perthynas ar hyn o bryd. Gallwn eich cynorthwyo i ddeall pam bod perthnasau yn y gorffennol wedi methu a rhoi cymorth i chi feithrin perthynas gadarnhaol yn y dyfodol.
C. Beth os ydw i eisoes wedi ceisio newid fy ymddygiad ond nad oeddwn i’n llwyddiannus?
A. Mae’r ffaith eich bod eisoes wedi ceisio newid yn dangos nad ydych eisiau brifo eich partner a’ch teulu. Gallwn gynnig y gwasanaeth rydych ei angen i’ch cynorthwyo.