postheadericon Canolfannau Cyswllt Plant

Beth yw Canolfan Cyswllt Plant?

Mae Canolfan Cyswllt Plant yn leoliad diogel, cyfeillgar a niwtral i deuluoedd sydd wedi gwhanu. Gall blant dreulio amser gydag un neu’r ddau riant, ac o bryd i’w gilydd, aelodau eraill o’r teulu. Y plentyn a’i anghenion sy’n dod gyntaf pob tro gan y Ganolfan.

Sut le yw Canolfan Cyswllt Plant?

Y plant yw’r bobl bwysicaf mewn Canolfan Cyswllt Plant. Rydym yn ceisio creu awyrgylch cynnes a chymdeithasol lle gallwch chi a’ch plant ymlacio a mwynhau eich hunain. Mae gan y Ganolfan ran sy’n cynnwys amrywiaeth o gemau, teganau a llyfrau i blant o bob oed. Darperir te, coffi a lluniaeth.
Caiff y Ganolfan Cyswllt Plant ei rheoli gan wirfoddolwyr a staff sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n ddiduedd, felly ni fyddant yn cefnogi un unigolyn dros unigolyn arall. Caiff y Ganolfan Cyswllt Plant ei rheoli gan wirfoddolwyr a staff sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n ddiduedd, felly ni fyddant yn cefnogi un unigolyn dros unigolyn arall. Maent yn gweithredu polisi cyfrinachedd caeth sydd wedi’i wirio gan yr heddlu.

Sut caiff yr ymweliadau eu trefnu?

Cynhelir ymweliadau trwy gyfeiriad. Gall y cyfeiriad gael ei wneud gan weithiwr cymdeithasol, cyfreithiwr, cyfryngwr teuluol, swyddfa CAFCASS neu drwy orchmynion llys. Mae’r unigolyn sy’n gwneud y cyfeirio’n llenwi ffurflen gyfeirio ac yn ei hanfon at Gydlynydd y Ganolfan.
Am wybodaeth am eich Canolfan Cyswllt Plant leol, cysylltwch â’r cydlynydd ar 01492 535140