postheadericon Cyflafareddu Teulu

Cyfryngu Teuluol 
Beth yw Cyflafareddu Teulu?
• Mae gwahanu ac ysgaru yn brofiad poenus i bawb, yn enwedig plant. Mae plant yn dioddef llai o niwed ac yn ymdopi’n well gyda’r newidiadau a ddaw yn sgil gwahanu pan mae rhieni yn osgoi gwrthdaro.
• Gall Cyflafareddu Teuluol eich cynorthwyo i benderfynu ble bydd y plant yn byw a threfniadau cyswllt,
• Gall Cyfryngu Teuluol eich cynorthwyo i gytuno ar beth i’w wneud gyda’r cartref, eiddo ac arian.

I bwy mae Cyflafareddu teulu?

• Mae Cyfryngu ar gyfer cyplau sy’n gwahanu neu’n ysgaru, neu gyplau sydd wedi ysgaru neu wahanu ac sydd angen ymdrin â materion sy’n codi.
• Gall neiniau a theidiau a llys-rieni ddod i sesiynau Cyfryngu Teuluol i drafod dulliau o gadw mewn cysylltiad â phlant wedi i deulu chwalu.
• Gall plant hefyd gwrdd â Chanolwr yn ystod sesiwn Cyfryngu pan fo hyn yn berthnasol.

Be sy’n digwydd mewn Cyflafareddu Teulu?

• Ar gyfer eich cyfarfod cyntaf bydd modd i chi ddewis os ydych yn dymuno mynychu ar eich pen eich hunain neu gyda’r person arall.
• Mae’r cyfarfod cychwynnol hwn yn fodd i drafod beth rydych yn gobeithio ei gyflawni drwy Gyflafareddu ac i ofyn unrhyw gwestiynau. Bydd yn eich galluogi i benderfynu a yw Cyfryngu yn addas i chi.
• Os bydd Cyflafareddu yn parhau, bydd apwyntiadau dilynol yn cael eu mynychu gyda’ch gilydd. Gallwn drefnu amserau cyrraedd a gadael ar wahân os ydych yn dymuno. Darparir ystafelloedd aros ar wahân.
• Bydd ein Canolwyr hyfforddedig yn eich cynorthwyo i drafod eich problemau. Gallant eich helpu i edrych ar wahanol ddewisiadau a’ch cefnogi i ddod i gytundeb sy’n fuddiol i bawb. Ni fyddant yn dweud wrthych beth i’w wneud a ni fyddant yn ochri ag unrhywun.
• Byddwn yn awgrymu i chi sicrhau barn gyfreithiol annibynnol yn ystod Cyflafareddu.

Beth fydd y gost?

• Os ydych chi ar incwm isel neu ar fudd-daliadau efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cyllid Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar gyfer yr holl gostau Cyfryngu. Byddwn yn asesu hyn yn ystod eich ymweliad cyntaf.
• Os nad ydych yn gymwys, bydd yn rhaid i chi dalu ffi. A yw Cyflafareddu yn gyfrinachol?
Ydy. Serch hynny, mae’n rhaid i Ganolwyr sôn wrth yr awdurdodau perthnasol os yw plentyn neu un rhywun arall mewn peryg mawr.
• Mae beth fyddwch yn ei ddweud mewn Cyflafareddu yn gyfrinachol ac yn gyfreithiol freintiedig – hynny yw, ni all gael ei ddefnyddio yn y llys.

Cyfryngu Teuluol Cenedlaethol

  • Yma yn Relate Gogledd Cymru rydyn ni’n falch o gael bod yn rhan o’r Gwasanaeth Cyfryngu Teuluol Cenedlaethol
  • Os hoffech chi fwy o wybodaeth am y gwasanaethau yma, cliciwch ar y logo isod.


Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ar 01492 870876