Cwnsela Perthynas
Cwnsela Perthynas Mae cynghorwyr Relate yn gweithio gydag unigolion neu gyplau, heterorywiol neu hoyw sy mewn perthynas anodd, neu sy wedi bod mewn un yn y gorffennol).
Problemau cyffredin:
- Ddim yn siarad mwyach
- Ymdopi â godineb
- Llawer o ffraeo
- Trais
- Anawsterau rhywiol
- Poeni bod y berthynas yn dod i ben
- Dim teimladau bellach tuag fy mhartner/ gŵr/gwraig
Byddwch yn mynychu sesiynau gyda chynghorydd sydd wedi ei hyfforddi. Bydd yn eich cynorthwyo gyda materion anodd, i ddod i ddeall eich hun yn well ac i benderfynu beth i’w wneud nesaf.
Peidiwch â dod â phlant i’ch sesiynau cwnsela. Nid oes gennym yr adnoddau i ddarparu cymorth gofal plant ac ni fydd hi’n hawdd i chi drafod materion anodd gyda phlentyn yn bresennol.
Am ragor o wybodaeth am Gwnsela Perthynas yn y gogledd neu i drefnu apwyntiad, ffoniwch 01492 533919/533920 neu 01978 265028