Cefnogwch Ni
Mae’r mwyafrif o bobl sy’n dod at Relate yn cyfrannu tuag at gost y gwasanaeth a dderbynnir, ond mae llawer o’r gwaith gwerthfawr a wnaed yn rhad ac am ddim neu am bris gosyngol. Rydym yn gweithio’n galed i gadw ein costau’n isel. Er ein bod yn derbyn swm bychan o arian cyhoeddus, mae ein hincwm yn parhau i fod yn is na chostau ein gwasanaethau. Bydd eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r oedolion, y teuluoedd a’r plant rydym yn gweithio â nhw. Bydd unrhyw gyfraniad gallwch wneud tuag at ein gwaith yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth ac yn effeithiol.
Gallwch ein cefnogi’n ariannol drwy:
• Anfonwch siec yn daladwy i “Relate North Wales Limited” i 8 Rhodfa Riviere, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7DP
• Gwneud cyfraniad drwy bwyso’r botwm Cyfrannwch Nawr sydd wedi ei gysylltu â Charity Choice, dull diogel o gyfrannu ar lein.
• Gallwch adael cymynrodd i Relate Gogledd Cymru yn eich ewyllys. Mae’n broses syml a bydd eich cyfreithiwr neu ymgynghorydd cyfreithiol yn gallu eich cynorthwyo.
Dulliau eraill o gefnogi Relate Gogledd Cymru:
• Rheolir Relate Gogledd Cymru gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros redeg a rheoli’r elusen. Os oes gennych sgiliau i’w cynnig i’r Bwrdd Rheoli, a’ch bod yn fodlon treulio ychydig o’ch amser gyda’r Bwrdd Rheoli, byddwn yn falch iawn o glywed gennych.
• Oes gennych brofiad o godi arian ar gyfer elusennau? A ydych yn fodlon treulio ychydig o oriau bob mis gyda ni? Gallwch ymuno â’r grŵp cefnogi Cyfeillion Relate Gogledd Cymru.
• Rydym angen gwirfoddolwyr yn rheolaidd i gynorthwyo gydag ystod o wasanaethau, felly os oes gennych sgiliau gweinyddol neu sgiliau TG, neu os oes gennych amser yn rhydd, galwch draw at Reolwr y Ganolfan am sgwrs anffurfiol.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod ffoniwch y Rheolwr y Ganolfan ar 01492 533240
You can also support us by donating to Relate North Wales. Please print and fill the form below and send it back to us.
Gift Aid Declaration Form