postheadericon Amdanom Ni

Ein Gweledigaeth
“Dyfodol lle mae calon cymdeithas yn seiliedig ar berthynas dda rhwng cyplau a mewn teuluoedd”

Ein Cenhadaeth
“Hyrwyddo iechyd, parch a chyfiawnder rhwng cyplau a mewn teuluoedd”

Ein Hamcanion
• Gwella ansawdd y berthynas rhwng cyplau, rhieni a theuluoedd
• Helpu perthynas i wrthsefyll pwysau sydd yn arwain at chwalfa
• Lleihau’r boen pan ddaw perthynas i ben
• Cynyddu’r gobaith y bydd perthynas diweddarach yn llwyddo
Mae Relate Cymru yn cynnig nifer o wasanaethau proffesiynol yng Nghymru, sy’n cael eu gweinyddu gan staff medrus, profiadol a hyfforddedig gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr ymroddedig.

Dyma fraslun o’n gwasanaethau:

Cynghori Perthynas yng Nghymru
Cynghori ar gyfer Teuluoedd :
 Wrecsam, Gwynedd, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Pen-y-Bont, Caerdydd
Therapi seico-rywiol Gwynedd, Conwy, Wrecsam, Abertawe
Cyfryngu Teuluol Gogledd Cymru
Cyswllt Dan Oruchwyliaeth / gyda Chefnogaeth i Blant : Gogledd Cymru, Ceredigion
Choose2Change (Cynllun Ymyrryd mewn Trais yn y Cartref) Gogledd Cymru
Magu plant ar gyfer rhieni sy’n gwahanu Gogledd, Canolbarth, Gorllewin, De Orllewin Cymru, Pen-y-bont
Hyfforddiant / Codi Ymwybyddiaeth De Cymru
Gwaith Grŵp

Mae rhagor o fanylion am wasanaethau penodol ar gael ar y dudalen berthnasol.

Defnydd a Chyfeirio:
Gellir defnyddio’r gwasanaethau hyn i gyd drwy apwyntiad yn unig. Nid yw Relate Cymru yn cynnig gwasanaeth ymweld. Ni ellir derbyn rhai gwasanaethau ond drwy gyfeiriad trydydd person. Mae rhagor o fanylion am sut i gysylltu, am gyfeirio ac am feini prawf i’w cael ar gais.

Ein nod yw sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch, hyblyg ac yn ymateb i anghenion cleientiaid; fe wnawn ein gorau i addasu ar gyfer anghenion ein cleientiaid, gan gynnwys trefnu apwyntiadau gyda’r nos i gynghori.

Tâl:
Mae darparu’r gwasanaethau yn costio arian Relate Cymru. Rydym yn ceisio adennill costau yn uniongyrchol gan y cleient drwy dâl neu gyfraniad. Gofynnwch am fanylion ac am ein polisi canslo pan fyddwch yn cysylltu â ni os gwelwch yn dda