Relate, yr arbenigwyr ar berthynas
Rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i atebion.
Mae’n bryd ystyried cymorth perthynas. Mae gormod o gyplau yn ei gadael hi’n rhy hwyr. Mae Relate yn helpu 150,000 o bobl y flwyddyn. Byddwn yn eich helpu chi os ydych chi’n briod ai peidio, beth bynnag yw eich oed, hil, credoau personol, tueddfryd rhywiol neu gefndir cymdeithasol.
Dewch i siarad â ni a gallwn benderfynu gyda’n gilydd sut medrwn ni eich helpu chi.
Mae apwyntiadau yn ystod y dydd a gyda’r nos ar gael mewn lleoliadau diogel, cyfrinachol a chefnogol yn ein canolfannau yng Nghonwy, Ynys Môn, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Gwynedd a Wrecsam.
Ynglŷn â Relate

.
.
Byddwn yn cynnig apwyntiad cyntaf i chi cyn gynted ag y gallwn, fel arfer mewn pythefnos. Os cytunir yn y cyfarfod hwn y byddai cwnsela neu therapi Relate o gymorth, byddwn yn trafod pryd mae hi’n gyfleus i chi fynychu sesiynau rheolaidd a phryd gall y rhain ddechrau. Gallwch ddod i’n gweld yn ystod y dydd neu gyda’r nos. Fel arfer, cynhelir sesiynau cwnsela unwaith y wythnos, ac maent yn para awr. Byddwch yn gweld yr un cynghorydd pob wythnos a bydd y sesiynau’n parhau tra eich bod chi a’ch cynghorydd yn teimlo eu bod yn fuddiol, fel arfer rhwng 4 a 12 sesiwn (mwy ar gyfer therapi rhyw).
.
Swyddfa Gofrestredig (Abertawe): 01792 480088
Swyddfeydd Gogledd Cymru (Bae Colwyn): 01492 533920, (Wrecsam): 01978 265028
Swyddfa Canolbarth a Gorllewin Cymru (Caerfyrddin): 01267 236737
Unrhyw ardal arall: 0300 100 1234